19/09/2005

SEReN on-line: Colofn Dewi Prysor

SEReN has appeared as a monthly paper for the past two and a half years. We've now decided to put more of the printed paper on-line so that everyone can enjoy some excellent columnists and articles.

The first of these is the ever-provocative Dewi Prysor, who writes about the growing "economic apartheid" in Welsh-speaking areas such as Blaenau Ffestiniog, where house prices are way beyond the pocket of ordinary working-class people. He wonders whether Peter Hain, the colonial governor for Wales, remembers apartheid...


Apartheid economaidd yn Y Fro

Mae prisiau tai Gwynedd, fel gweddill Cymru, wedi bod allan o gyrraedd y rhan fwyaf o bobl leol ers rhai blynyddoedd. Erbyn hyn mae cyfartaledd prisiau tai’r sir dros £100,000. Cyfartaledd cyflogau Gwynedd, wedi di-ystyrru swyddi proffesiynol, yw £12,000. Ychydig iawn o deuluoedd dau-gyflog sy’n gallu prynu ty yn y sir.
Mae pethau’n ddrwg. Cymerwch Blaenau Ffestiniog, tref ôl-ddiwydiannol sydd â’i thai wedi bod yn gymharol rhad. Ond ddim mwy. Mae prisiau tai Blaenau bellach allan o gyrraedd rhan fwyaf trigolion yr ardal.
Trawyd Stiniog efo double-whammy yn chwe mlynedd ddiwethaf Yn draddodiadol mae’r dref wedi dibynnu’n helaeth ar y stoc dai rhent preifat Ond mae perchnogion y tai rhent wedi eu gwerthu er mwyn manteisio ar brisiau presennol y farchnad.
Wedi prynu stryd o dai am ychydig filoedd ddeng mlynedd yn ôl mae rhai landlordiaid, lleol ac absentee wedi gwneud elw sylweddol allan o stoc dai ein cymuned. Erbyn heddiw dydi bobl Stiniog ddim yn gallu prynu na rhentu tai. Mae’r cyflenwad o gartrefi wedi diflannu.
Erbyn hyn mae cynorthwywyr cymdeithasol yn nodi’r broblem (er nad ydynt yn codi eu llais yn gyhoeddus gan ofni eu pardduo fel hilgwn gan wasg ‘Stalinaidd’ y llywodraeth Lafur). Mae gweithwyr Gisda, yr asiantaeth annibynnol sy’n cartrefu pobl ifanc, yn dweud bod cael hyd i dai rhent yn Stiniog wedi troi’n lost cause.
Wedi ymdrech hir yn ddiweddar cafwyd ty rhent i gwpwl lleol yn eu harddegau sy’n disgwyl plentyn. Mae’r rhent yn £90 yr wythnos. Dydi budd-dal tai y cyngor ond yn talu £70 o hwnnw. Daw’r gweddill allan o’u budd-daliadau.
Beth am y stoc dai rhent cyhoeddus, tai Tai Eryri a’r tai cyngor sydd heb eu gwerthu? Mae rhai o’r rhain, hyd yn oed, wedi eu gosod i fewnfudwyr. Cyn i’r landlordiaid preifat werthu eu tai, a cyn i reolau llymach ar safonnau gosod tai ddod i rym yn ddiweddar, roeddynt yn hysbysebu’r tai rhent ym mhapurau lleol canolbarth a gogledd-orllewin Lloegr. Denodd y pennawd DHSS Welcome gannoedd o deuluoedd di-waith o ddinasoedd Lloegr i Snowdolia*.
Roedd llawer o’r tai rhent hyn yn is-safonol a buan iawn oedd yr anffodusion a hudwyd iddynt yn gorfod chwilio am dai gwell – a chael mynd i dop rhestr aros am dai rhent cyhoeddus oherwydd y pwyntiau roddwyd am gyflwr diffygiol eu cartrefi presenol.
A roedd cyflenwad diddiwedd o Snowdolia-seekers yn Lloegr yn barod i lenwi flea-pits – a pocedi – y landlordiaid barus mor sydyn ag oeddynt yn gwagio. Heddiw, a’r stoc dai rhent preifat wedi diflannu, mae’r Cyngor a Thai Eryri’n methu côpio efo’r gystadleuaeth am beth sydd ar ôl o’r stoc dai gyhoeddus wedi’r difrod wnaeth y parasites o landlordiaid hyn, heb anghofio’r llywodraethau sydd wedi parhau i werthu tai cyngor.
Mae hyn i gyd wedi cyfrannu i broblemau cymdeithasol argyfyngys ym Mlaenau Ffestiniog, problemau sydd wedi dwyshau wrth i rai newydd-ddyfodiaid ddod a’u problemau dinesig arbenig hwythau efo nhw.
Chwe mlynedd yn ôl doedd dim son am heroin yn y dref. Erbyn heddiw mae nifer ei ddefnyddwyr, a’i sgil-effeithiau troseddol, wedi tyfu fel cwmwl dros y gymdeithas. Ond does neb, yn enwedig yr heddlu, sy’n rhy brysur yn hela modurwyr rheibus, am fynd i’r afael â’r broblem.
Mae Blaenau fel petai’n cael ei daflu o’r neilltu. Mae gwasanaethau wedi eu cau, gan gynnwys y Ganolfan Waith, a maent am gau’r ysbyty rwan hefyd. Ydi Blaenau jest yn le hwylus i ddympio mewnfudwyr ‘undesirable’ o olwg potiau mêl ffasiynol Eryri a’r arfordir – allan o olwg y semi-retirees cefnog a’u Little Surreys a’u marinas?
Mae’r gwladychiad Seisnig yng Nghymru wedi cyrraedd sefyllfa mor gryf mae’n gallu is-drefedigaethu yn ôl cefndir cymdeithasol. Yn ogystal a’n Little Surreys mae gennym ein Little Brums a’n Little Bootles. Mae trawsdoriad cymdeithasol o’r genedl dros Glawdd Offa mewn sefyllfa economaidd digon cryf i allu coloneiddio Cymru gyfan. Mae’r ffaith fod dosbarth gweithiol dinesig Lloegr yn prisio gweithwyr proffesiynol Cymru allan o’r farchnad dai yn siarad cyfrolau am ein sefyllfa economaidd ni – a’n sefyllfa ddiffrwyth fel cenedl heb lywodraeth, na gwrthblaid effeithiol, ein hunain.
Yr un mor ddilys a’r gost gymdeithasol yw’r gost ddiwylliannol. Ond ni chaniateir iddo fod ar yr agenda wrth i’r llywodraeth Lafur fwrw mlaen i ddileu hunaniaeth Gymreig. Mae patrymau diwylliannol yn ‘ddilys’ yn Lloegr er nad oes bygythiad i Saesneg a Seisnigrwydd o du’r mewnfudwyr a orfodir i ddysgu Saesneg! Yma, mae’r diwylliant lleiafrifol Cymraeg yn marw wrth i’r Gymraeg ddiflannu fel iaith gymunedol fyw yn yr unig ardaloedd – yn y byd – ble mae wedi goroesi. Mae marwolaeth diwylliant Cymru yn digwydd heddiw, yn syfrdannol o sydyn.
System anghyfiawn, estron i’r feddylfryd Geltaidd yw system sy’n gweld cartrefi fel eiddo yn hytrach nag adnodd cymdeithasol, a sydd yn gwrthod gweld diwylliant fel adnodd, a thrysor, cenedlaethol. Gwladwriaeth a llywodraeth ddieflig sydd am gymhathu y Cymry i genedl Greater-English yw Prydain Fawr a’r cynffonwyr unoliaethol yn y Blaid Lafur Gymreig.
Apartheid economaidd yw’r realiti yng Nghymru bellach. Wyt ti’n cofio apartheid, Peter Hain?
* fel y disgrifiwyd y sgandal yn y wasg
Dewi Prysor

The comments are closed.